Enghraifft o'r canlynol | coup d'état, gwrthryfel |
---|---|
Dyddiad | 2012 |
Rhan o | Mali War |
Dechreuwyd | 17 Ionawr 2012 |
Lleoliad | Azawad |
Gwrthdaro rhwng y bobl Twareg a llywodraeth Mali yw Gwrthryfel y Twareg (2012), y gwrthryfel ymwahanol diweddaraf gan y bobl hon yn y Sahara. Cychwynnodd yn Ionawr 2012 dan arweiniad y Mudiad Cenedlaethol dros Ryddid Azawad (MNLA), mudiad seciwlar[1] sydd â'r nod o greu gwladwriaeth i'r Twareg yn ardal Azawad. Mae nifer o aelodau'r MNLA yn gyn-filwyr o'r Cyngor Trawsnewidiol Cenedlaethol a'r fyddin Libiaidd a frwydrodd yn Rhyfel Cartref Libia, a datgana'r gwrthryfelwyr eu bod wedi eu hysbrydoli gan y Gwanwyn Arabaidd.[2] Ymunodd y mudiad Islamiaidd Ansar Dine â'r gwrthryfel, ond mae anghytundeb rhyngddynt a'r MNLA.
Ar 22 Mawrth, cafodd yr Arlywydd Amadou Toumani Touré ei ddisodli mewn coup d'état gan fyddin Mali oedd yn feirniadol o'i ymgyrch. Cipiodd y gwrthryfelwyr dinasoedd Kidal, Gao a Tombouctou. Ar 5 Ebrill, wedi iddynt gipio Douentza, datganodd yr MNLA y bydd eu hymgyrch ymosodol yn dod i ben. Diwrnod yn hwyrach, datganodd hwy annibyniaeth Azawad ar Mali, gan obeithio ennill cydnabyddiaeth ryngwladol. Anwybyddwyd neu gondemniwyd y datganiad gan yr Undeb Affricanaidd, yr Undeb Ewropeaidd, a'r Unol Daleithiau.[3] Gwrthodwyd annibyniaeth hefyd gan Ansar Dine, a bwysleisiodd yr angen i weithredu sharia yn Azawad.[4] Ar yr un ddiwrnod datganodd ECOWAS y byddent yn cadw'r heddwch os cytunwyd ar gadoediad rhwng Mali a'r gwrthryfelwyr, ond os na yna byddent yn cyd-ymladd â lluoedd Mali yn erbyn y Twareg.[5]
Yn Ebrill, rhybuddiodd Amnest Rhyngwladol bod Mali ar fin "argyfwng dyngargol" wedi i ragor na 200,000 o bobl ffoi o ogledd y wlad ers dechrau'r gwrthryfel.[6] Rhybudiodd UNESCO bod safleoedd treftadaeth Tombouctou dan fygythiad.[7] Wedi diwedd y brwydro â lluoedd Mali, ni lwyddodd y cenedlaetholwyr a'r Islamyddion i gymodi eu gweledigaethau am y genedl newydd.[8] Ar 27 Mehefin, brwydrodd Islamyddion y Mudiad dros Undod a Jihad yng Ngorllewin Affrica yn erbyn yr MNLA yn Gao, gan gipio'r ddinas.[9]